Canlyniadau Safon Uwch Ysgol Bro Hyddgen, Machynlleth

·         Roedd 67% o’r canlyniadau Safon Uwch yn A*-C.

·         Roedd 100% o’r myfyrwyr wedi ennill o leiaf 2A*-E neu gyfwerth.

Mae myfyrwyr a staff Ysgol Bro Hyddgen wedi’u plesio unwaith eto eleni gyda’r canlyniadau Safon Uwch. Ymysg y pynciau enillodd 100% A*-C yn y Safon Uwch oedd Cymraeg, Ffrangeg, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol, Cerddoriaeth, Daearyddiaeth ac Astudiaethau Busnes.  Yn ogystal, gwelwyd 100% llwyddiant yn y pynciau galwedigaethol gyda 50% o’r canlyniadau’n Anrhydedd Seren.

Mae bron pob myfyriwr wedi ennill y graddau neu’r sgor pwyntiau cyfatebol i allu sicrhau mynediad i’r brifysgol o’u dewis hwy – roeddynt felly wedi cyrraedd eu targedau personol (a thargedau oedd yn aml yn heriol iawn).  Enillodd nifer helaeth o’r myfyrwyr lefydd ar gyrsiau cystadleuol iawn, a hynny yn rhai o brifysgolion gorau’r wlad.  Mae cymwysterau’r myfyrwyr wedi’u galluogi i ddechrau astudio fel gradd bynciau amrywiol iawn gan gynnwys Fferyllyddiaeth, Perianneg Fecanyddol, Gwyddorau Meddygol, Mathemateg, Cerddoriaeth, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Cymraeg, Hanes, Addysgu, Ffilm a Ffotograffiaeth, Gwyddorau Chwaraeon,  a Theori Ffiseg.

Dywed Mr Dafydd Jones, y Pennaeth, ei fod yn awyddus iawn i gydnabod bod llwyddiant pob myfyriwr wedi digwydd, nid yn unig yn dilyn ei ymdrech ei hun, ond hefyd, yn sgil ymroddiad, cefnogaeth a gwaith caled staff dysgu’r ysgol.  “Unwaith eto eleni, dyma ganlyniadau calonogol iawn sy’n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad y myfyrwyr, rhieni a staff Ysgol Bro Hyddgen gan felly sicrhau bod y bobl ifanc hyn o fewn ein cymuned yn cael y cyfleoedd gorau posib i anelu am eu llwybrau gyrfa dewisol.  Dymunaf longyfarch yr holl fyfyrwyr hyn, a hefyd dymunaf y gorau iddynt fel maent yn symud i brifysgol neu i’r byd gwaith.”

Ymysg y canlyniadau gorau eleni roedd:

 

Mared Jones – AAAB

Lleucu Morgan – AACC

Ania Parry – ABBB

Gruffydd Behnan – ABCC

Cerys Hughes – ABB

Jordan Hughes – ABB

 

Roedd perfformiadau canmoladwy iawn i’w gweld gan ddisgyblion blwyddyn 12 yn ogystal yn eu harholiadau Uwch gyfrannol, gan gynnwys:

 

Aur Bleddyn – AAB

Ffion Davies – AABC

Celt John – ABB

Owen Kimpton – AAB

Lewys Meredydd – AAA

Rebecca Owen – ABB