Ymweliad Gwyddor Meddygol Blwyddyn 12
Bu dosbarth Gwyddor Meddygol Blwyddyn 12 ar ymweliad ag adran chwaraeon Prifysgol Aberystwyth. Roedd y grŵp gwyddor meddygol digon lwcus i dderbyn gwahoddiad i’r brifysgol yn ddiweddar, er mwyn gallu defnyddio’r offer arbenigol sydd ganddyn nhw i fesur iechyd. Cafwyd blas ar y cyrsiau newydd ym maes iechyd maent yn eu cynnig, yn ogystal â darlith anffurfiol ar y gwaith maent yn astudio ar hyn o bryd.
Gwelir yn y lluniau pa mor gystadleuol oedd y bechgyn wrth wneud y gwaith ymarferol!
![](https://www.brohyddgen.cymru/wp-content/uploads/2018/12/6th-form-medical-science.png)
![](https://www.brohyddgen.cymru/wp-content/uploads/2018/12/6th-form-medical-science2.png)