Am ni
Mae’r pwyllgor CRhA yma i gefnogi’r ysgol trwy godi arian, trefnu digwyddiadau a gwneud caisiadau am grantiau i’r ysgol i gefnogi addysgu ein disgyblion cynradd ac uwchradd. Rydym yn grŵp o rieni ac athrawon brwdfrydig iawn sy’n cwrdd unwaith y tymor yn yr ysgol (rydym bob yn ail yn y campws cynradd ac uwchradd ar gyfer pob cyfarfod). Cynhelir hefyd gyfarfodydd anffurfiol i gynllunio a thrafod syniadau bob 3-4 wythnos yn y White Lion, Machynlleth. Croeso cynnes i bawb os hoffech chi ymuno â ni (cadwch lygad ar y cyhoeddiadau ar y grŵp CRhA).
Gallwch hefyd ein dilyn ar ein grŵp Facebook (CRhA – PTA Bro Hyddgen). Cadwch lygad am negeseuon testun gan yr ysgol am wybodaeth ar sut y gallwch chi ein cefnogi yn ein gweithgareddau ond hefyd gwefan yr ysgol a twitter i gael mwy o wybodaeth.
Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Hyddgen yn fwy na chorff casglu arian; rydym hefyd yn bodoli i sicrhau undod agos rhwng y cartref a’r ysgol. Estynnwn groeso cyfeillgar i rieni neu warchodwyr sydd â’i bryd ar gael cyswllt agosach gyda chymuned yr ysgol ac i gefnogi’r athrawon gweithgar wrth ddarparu addysg i’n plant. Rydym yn hynod falch o Ysgol Bro Hyddgen a’r awyrgylch ofalgar a geir yn y gymuned a’n nod ni yw parhau i gynnig cyfleodd i rieni gyfoethogi bywyd addysgol eu plentyn ymhellach.
Trefnir nifer o weithgareddau codi arian yn ystod y flwyddyn a defnyddir yr holl arian a gesglir yn y digwyddiadau hyn i brynu adnoddau buddiol i’n disgyblion ac i gryfhau eu profiadau addysgol. Tros y blynyddoedd rydym wedi cael y pleser o ariannu digwyddiadau megis gweithdai a theithiau addysgol yn ogystal â phrynu adnoddau TGCh, Chwaraeon, llyfrau ac ati sydd o gymorth i’r ysgol wrth iddynt anelu at ‘wireddu breuddwydion’ eu disgyblion.
Diolch
Thank you to the following by supporting us this year with our fundraising:
1/ Vouchers for a Real Christmas tree from Ogo fach.
2/ Voucher Plas Dolguog Hotel
3/ Voucher Glan yr Afon Pennal.
4/ Voucher Cinema for 2 Libanus cinema Borth.
5/ Voucher £40 Wynnstay Hotel
6/ Voucher for Gel nails by Mel.
7/ Co-Op – Supplies for our Summer fair / Christmas cinema night
8/ Tuffins – Supplies for the Summer fair / Christmas Cinema night
9/ Welsh Tea Voucher Gegin Fach Tearoom
10/ Express Indian Voucher Kindly donated by Bruce and Jo
11/ £10 Voucher from Deco Shop
12/ Celtic Pen / Silver Necklace Donated By The Jewellery House Aberystwyth
13/ Voucher from The Beauty Room
14/ Coffee and Cake Voucher plus Bottle of Red wine from Number 21
15/ Blasau Deli Hampers
16/ Collection of Fabulous Books Kindly Donated by Ian Snow
17/ Black Lion Vouchers
18/ Dyfi Wholefoods Organic Elderflower Cordial / Organic Chocolates
19/ Caffi Alys Vouchers for Christmas Art competition / Mulled Wine
20/ Chocablock Corris Kindly supports us all year round
21/ Aberdyfi Ice Cream Kindly donated 2 x £10 Vouchers
22/ Meatpoint £60 Voucher
23/ King Arthurs Labyrinth Voucher
24/ All the Individual Units at The Corris Craft Centre Kindly donated to our Summer Fair
25/ Will Lloyd Butchers Machynlleth Kindly supports us all year round
26/ Freedom Leisure Voucher