Cystadleuaeth Cymdeithas Maldwyn 2019
Gwobrwyo Disgyblion Bro Hyddgen:
- 2il) Beca Jones (Bl. 8) Stori Gymraeg
- 2il) Ffion Jones (Bl.12) Gwaith Celf
Mae hi’n bleser cael cyhoeddi mai disgyblion o gampws uwchradd Ysgol Bro Hyddgen gipiodd rai o’r prif wobrau yng nghystadleuaeth Cymdeithas Maldwyn unwaith eto eleni.
Derbyniodd y disgyblion ganmoliaeth uchel gan y beirniaid am eu doniau ysgrifennu caboledig a’u talentau celf arbennig.
Gofynion y gystadleuaeth eleni oedd llunio gwaith creadigol yn y Gymraeg neu’r Saesneg a hynny ar y testun ‘camgymeriad’. Roedd enillwyr y wobr gyntaf yn derbyn tystysgrif yn ogystal â siec o £80 gyda’r ail wobr yn siec o £40.
Daeth cynrychiolydd o’r gymdeithas, Mr Bryn Davies, ynghyd ag Aileen Richards, Y Llywydd, draw i’r ysgol ddydd Iau, 28 Mawrth, i gyflwyno’r gwobrau hael i’r disgyblion gan nodi bod disgyblion yr ysgol hon wedi cynnal y safon uchel tu hwnt unwaith eto eleni. Yng ngeiriau’r Pennaeth, Mr Dafydd Jones, “rydym yn hynod o falch o’n disgyblion talentog ni ac i’r staff fu wrthi’n eu paratoi. Diolch hefyd i Gymdeithas Maldwyn am drefnu’r gystadleuaeth yma’n flynyddol.”