Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fygythiad byd-eang i’n gallu i drin clefydau heintus ac yn tanseilio datblygiadau ym maes iechyd a meddyginiaethau. Yn 68fed sesiwn Cynulliad Iechyd y Byd (2015), cadarnhaodd Cynulliad Iechyd y Byd y “Cynllun Cyflawni Byd-eang ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd”.
Bwriad y Cynllun yw mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy wneud y canlynol:
• gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd
• cryfhau gwybodaeth drwy ymchwilio a bod yn wyliadwrus
• lleihau achosion o heintiau
• gwneud y defnydd gorau o gyfryngau gwrthficrobaidd
• datblygu achos economaidd dros fuddsoddi cynaliadwy