Llais y Disgybl
Detholwyd y plant canlynol o Flwyddyn 6 yn Gapteiniaid Ysgol ac maen nhw eisoes wedi cyflawni gwaith da yn cyflwyno gwasanaethau Clod y Pennaeth.
Capteiniaid
- Betsan Behnan
- Sanna El Radhi-Hall
- Ella Hughes
- Leo Nicholas
- Suzie Oldham
- Freya Pritchard
- Cara Roberts
- Nancy Tucker-Anthony
Cynhaliwyd etholiadau gan bob dosbarth ac etholwyd cynrychiolwyr i’r Cyngor Ysgol Cynradd fel y gwelir yn y tabl:
Y Siarter Iaith: Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Campus
Er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a gwerth dwyieithrwydd yn ein hymgyrch i ennill Gwobr Arain y Siarter Iaith, detholwyd y disgyblion canlynol i fod yn Bencampwyr Iaith:
Llysgenhadon Chwaraeon
Detholwyd Mia Nicholas a Lewis Fisk yn Llysgenhadon Chwaraeon o Flwyddyn 5. Ddydd Mawrth, 22 Tachwedd, treuliasant ddiwrnod buddiol iawn yn Ysgol Carno yn derbyn hyfforddiant dan arweiniad Ryan Davies, y Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol. Bydd Mia a Lewis yn cydweithio gyda Llysgenhadon Blwyddyn 6: Cai Taylor, Noah Roberts, Arron Roberts a Chloe Jones, er mwyn hyrwyddo gweithgareddau cadw’n iach a heini ymysg holl ddisgyblion yr ysgol.
Llysgenhadon Gwych y Comisiynydd Plant
Detholwyd Esther West ac Emily Jones yn Llysgenhadon Gwych i’r Comisiynydd Plant. Ddydd Mawrth, 12 Tachwedd, cafodd y ddwy ddiwrnod o hyfforddiant dan arweiniad y Comisiynydd ei hun – Sally Holland. Mae cyfrifoldeb ar y ddwy ac ar yr ysgol i sicrhau bod holl blant yr ysgol yn gwybod am eu hawliau – 54 ohonynt i gyd, er mwyn ceisio sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Ddydd Gwener, 22 Tachwedd, cyflwynodd Esther ac Emily wasanaeth yn crynhoi’r hawliau hyn ac er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Plant – 20 Tachwedd 2019.
Llysgenhadon Chwaraeon
Diolch i weledigaeth Ryan Davies, y Swyddog Datblygu Chwaraeon Cymunedol, mae’r Llysgenhadon Chwaraeon: Mia Nicholas, Chloe Jones, Cai Taylor, Lewis Fisk, Noah Roberts & Aaron Roberts, yn rhan o brosiect cymunedol ble mae plant yn mynd i mewn i gartrefi’r henoed ac yn cynnal sesiynau ymarfer corff ysgafn gyda’r bobl sy’n byw yno. Mae llysgenhadon Bro Hyddgen yn mynd i Gartref Dyfi ar fore Gwener ac yn treulio orig ddiddig yng nghwmni’r hen bobl. Mae’r sesiynau wedi bod yn hynod boblogaidd gyda’r hen a’r ifanc yn ymateb yn arbennig o dda i’w gilydd. Edrychwn ymlaen at barhau gyda’r prosiect hwn yn y flwyddyn newydd.