Dulliau newydd o weithio i ddarparu dysgu effeithiol ar gyfer disgyblion Powys
Mae’r Cyngor Sir wedi datgan bod uwch swyddogion addysg wedi bod yn tawelu meddyliau rhieni plant ysgolion Powys gan ddweud nad oes disgwyl iddynt ailgreu ysgol yn eu cartrefi.
Mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn gweithio’n galed gyda phenaethiaid a chymunedau ysgolion i ddelio ag effaith y coronafeirws sydd wedi amharu’n sylweddol ar y system addysg.
Cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, ddatganiad polisi o’r enw ‘Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ sydd â’r nod o gynorthwyo dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: “Hoffwn ddiolch i benaethiaid, staff ysgolion a rhieni am eu holl gefnogaeth ac am y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yn hyn o dan amgylchiadau anodd.
“Ein blaenoriaeth yw cadw plant yn ddiogel ond mae angen i ni hefyd eu cadw i ddysgu fel y gallant ddal i fyny cyn gynted ag y bo modd pan fydd yn ddiogel i ysgolion ail-agor. Rydym yn ffodus iawn bod gennym fynediad at lwyfannau dysgu digidol a’r offer ystafell ddosbarth diweddaraf ar-lein, ac mae’n gweithio’n dda.
“Hoffwn roi sicrwydd i rieni ein bod mewn sefyllfa dda i gynnal yr addysgu a’r dysgu ar gyfer ein pobl ifanc mewn dulliau gwahanol. Ein nod yw ysgogi ac ymgysylltu â’n holl ddysgwyr gydag ystod o weithgareddau perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn cynnal eu haddysg yn ogystal â diogelu eu lles.
“Fodd bynnag, rwyf am ei gwneud yn glir nad athrawon yw rhieni ac mae llawer yn teimlo’r pwysau i greu ysgol fach gartref. Bydd yr addysgu’n cael ei ddarparu gan y gweithwyr addysgu proffesiynol ac rydym yn gofyn i rieni gefnogi dysgu eu plant gartref.
“Dydyn ni ddim yn disgwyl i rieni i fod yn athrawon ffurfiol ond mae angen i ni ddarparu’r cymorth i’w galluogi i helpu eu plant. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer eu lles meddyliol a chorfforol, sydd yr un mor bwysig, yn enwedig ar yr adeg hon. “
Bydd ysgolion unigol mewn cysylltiad uniongyrchol â’u rhieni eu hunain, gyda rhagor o wybodaeth am sut y bydd yr addysgu a’r dysgu yn cael eu darparu.
Gofynnir i rieni ateb yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ddysgu gartref tra bod ysgolion ar gau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu: Datganiad Polisi Parhad Dysgu Llywodraeth Cymru ar ei wefan.