Cynlluniau ar gyfer campws blaenllaw wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru
Mae campws cymunedol blaenllaw dysgu a hamdden ar gyfer tref yng ngogledd Powys wedi cymryd cam mawr ymlaen ar ôl i gynlluniau’r cyngor sir gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu codi adeilad newydd o’r radd flaenaf gwerth £48m ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £31 miliwn tuag at y prosiect, o dan y rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cymeradwyo Achos Amlinellol Strategol ac Achos Busnes Amlinellol ar y cyd y cyngor. Bydd y cyngor yn awr yn symud ymlaen i gam Achos Busnes Llawn y prosiect.
Bydd y campws newydd sbon, pwrpasol, yn cynnwys ysgol pob oed ar gyfer 620 o ddisgyblion gyda chyfleusterau blynyddoedd cynnar ynghyd â darpariaeth hamdden a llyfrgelloedd. Fe’i cynlluniwyd hefyd i fodloni achrediad Passivhaus sy’n golygu y bydd gan yr adeilad safonau effeithlonrwydd ynni uchel, gan leihau’n sylweddol yr ynni ar gyfer gwresogi ac oeri, gan leihau allyriadau CO2 yr adeilad.
Bydd y cyfleuster wedi’i leoli ar gaeau chwarae presennol y campws uwchradd gydag adeilad presennol yr ysgol yn cael ei ddymchwel i greu lle ar gyfer y campws cymunedol newydd.
Bydd y cynlluniau ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yn helpu’r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth 10 mlynedd uchelgeisiol a gymeradwywyd yn gynharach eleni (Ebrill).
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Addysg ac Eiddo: “Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen.
“Nid yn unig y byddwn yn darparu cyfleuster sy’n canolbwyntio ar y gymuned, Ysgol Bro Hyddgen fydd yr ysgol pob oed Passivhaus gyntaf yng Nghymru ac yn y DU gyda phwll nofio a chyfleusterau hamdden.
“Mae cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddsoddiad enfawr yn ein seilwaith ysgolion.
“Un o amcanion ein Gweledigaeth 2025 yw darparu amgylcheddau addysgu a dysgu o ansawdd uchel a bydd ein cynlluniau ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen yn ein helpu i gyflwyno’r weledigaeth hon.”
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Mae hwn yn brosiect cyffrous i Fachynlleth a’r cyffiniau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif iawn i’r boblogaeth leol.
“Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys yr ysgol a gofal plant, mannau i’w defnyddio gan y gymuned gyfan a chyfleusterau hamdden a llyfrgell o’r radd flaenaf i bobl o bob oed.
“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cynlluniau cyffrous hyn, a fydd wrth wraidd y gymuned ac yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer prosiectau ledled Cymru yn y dyfodol.”