Ymgynghoriad iaith Ysgol Bro Hyddgen yn dechrau
Mae ymgynghoriad ar gynlluniau i gyflwyno ysgol ddwyieithog bob oed gyntaf yng ngogledd Powys wedi dechrau, yn ôl y cyngor sir.
Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig trosglwyddiad fesul cam o ysgol ddwy-ffrwd i ysgol ddwyieithog, lle byddai’r addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, yn Ysgol Bro Hyddgen. Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i hyn fis Tachwedd er mwyn dechrau ymgynghori ar y cynlluniau
Mae’r cyngor bellach yn gofyn am farn y cyhoedd ar y cynnig, a fyddai’n darparu dwy iaith i bob disgybl o ddechrau eu haddysg ac yn eu galluogi i ddod yn gwbl ddwyieithog.
Os yw’r cynnig yn mynd yn ei flaen, byddai’r newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno fesul cam, fesul blwyddyn, gan ddechrau gyda dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022. Byddai cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i wella’u sgiliau yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfleoedd am addysg drochi, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn siroedd eraill.
Ni fyddai’r newid arfaethedig yn effeithio ar ddisgyblion sydd eisoes yn yr ysgol – byddai disgyblion sy’n derbyn addysg cyfrwng-Saesneg yn yr ysgol yn gallu parhau i gael y ddarpariaeth yma nes y byddant yn gadael yr ysgol.
Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio Addysg ac Eiddo Cabinet y cyngor: “Mae Ysgol Bro Hyddgen mewn ardal draddodiadol Gymraeg ei hiaith, a’r unig ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng-Saesneg yn y dalgylch sy’n ei mynychu yw ffrwd cyfrwng-Saesneg yr ysgol ei hun.
“Un o nodau’r Strategaeth Trawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg ar draws yr holl gyfnodau allweddol. Un o’n hamcanion yn y strategaeth yw symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith.
“Er mwyn cyflawni’r nodau a’r amcanion hyn, rydym yn awyddus i symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith. Byddai hyn yn sicrhau bod pob disgybl sy’n mynychu’r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd, ac felly’n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Rydym yn datblygu campws cymunedol newydd gwych i Ysgol Bro Hyddgen a Dyffryn Dyfi a fydd yn ddatblygiad blaenllaw nid yn unig i’r ardal, ond hefyd i’r sir ac i Gymru. Ochr yn ochr â’r datblygiad hwn, rydym am roi cyfle i bob plentyn gael y manteision a ddaw yn sgil addysg ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y bobl yn Nyffryn Dyfi a’r ardal ehangach yn cael dweud eu dweud ar y cynigion hyn, a byddwn i’n eu hannog i anfon eu barn er mwyn i honno gael eu hystyried.”
I ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i https://cy.powys.gov.uk/trawsnewidaddysg a dilyn y dolenni i rannu eich barn ar-lein.
Neu, gallwch ymateb yn ysgrifenedig trwy anfon e-bost at school.consultation@powys.gov.uk neu lythyr trwy’r post at y Tîm Trawsnewid Addysg, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar ddydd Mawrth, 26 Ionawr, 2021.