Croeso i Chewched Brohyddgen

Croeso

Mae Ysgol Bro Hyddgen yn ysgol 4 – 18 oed gyda rhyw 550 o ddisgyblion wedi ei lleoli ar ddau safle ar gyrion tref Machynlleth.  Mae canran uchel o’r disgyblion yn byw yn y dref ac y mae’r lleill yn dod o gefndir gwledig.   Rydym yn derbyn disgyblion o dair sir:  Powys, Gwynedd a Cheredigion.  Mae’r dalgylch ym Mhowys yn ymestyn mor bell â Charno yn y dwyrain ac Aberangell yn y gogledd-ddwyrain.  Awdurdod Addysg Powys sy’n gyfrifol am yr ysgol ond y mae trefniadau hefyd i dderbyn disgyblion o Wynedd a Cheredigion.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn ysgol gartrefol a chysurus; yn gwneud ein gorau i ddarparu addysg o’r radd flaenaf.