Am gyfle!
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bu nifer o ddisgyblion Bro Hyddgen yn cyd-berfformio gydag aelodau Cerddorfa Siambr Y Sinffonia Gymreig mewn cyngerdd Crescendo dan arweiniad yr arweinydd Rhyngwladol Mark Eager. Trwy gyfrwng y prosiect cynhyrfus hwn, mae deunaw aelod o’r gerddorfa yn gweithio’n agos gyda chwaraewyr cerddorfaol ifanc a chorau ysgolion, gan drefnu cyngherddau er mwyn cyflwyno’r disgyblion i bleser perfformio mewn ensemble mawr drwy repertoire difrifol ond cyraeddadwy.
Yn ogystal â rhoi cyfle i’n hofferynwyr ifanc gyd-berfformio gyda’r gerddorfa, cafwyd amrywiaeth o eitemau offerynnol a lleisiol, nifer ohonynt i gyfeiliant y gerddorfa – yn eu plith eitemau gan Mared Jones, Gruffydd Behnan, Malen Meredydd Aeron, Begw Tomos, Cerys Hickman, Owen Kimpton, Celt John, Lewys Meredydd Siencyn, aelodau Swynol sef Tegan Roberts, Glain Lewis ac Alaw Jones ynghyd â chorau Cerdd Dant Iau a Hŷn yr ysgol.
Yn sicr, bu’r cyngerdd yn llwyddiant ysgubol, a derbyniodd ein disgyblion ganmoliaeth uchel am safon broffesiynol eu perfformiadau. Diolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled ac am gynrychioli ein hysgol mor dda. Mae eu hathrawes ,Llio James, yn gwerthfawrogi eu hymroddiad yn fawr. Diolch hefyd i’r athrawon teithiol Mr Jean Louis Rimbaud, Mrs Sally Marshall a Mr Steffan Jones am eu cefnogaeth ddiflino, ac i Mr Tudur Jones am ei gymorth gyda’r cyfeilio.