Diwrnod Trosglwyddo Blwyddyn 6

 

 

Braf oedd cael croesawu blwyddyn 6 i’r campws uwchradd ar gyfer yr wythnos trosglwyddo’r tymor hwn. Cafwyd blas ar amrywiaeth o wahanol bynciau sydd gan y campws uwchradd i’w gynnig o weithgareddau chwaraeon, diwrnod Technoleg, diwrnod rhifedd, llythrennedd a llawer mwy. Roedd yr wythnos yn hynod lwyddiannus gan fod pawb wedi creu ffrindiau newydd sydd yn y flwyddyn ac wedi dod yn fwy cyfarwydd â’r campws uwchradd. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd yma ym mis Medi!