Dawns Diwedd Blwyddyn 11

 

Nos Iau, Mehefn 21, cafwyd prom hynod lwyddiannus ar y campws uwchradd wrth i ni fel ysgol ffarwelio gyda Blwyddyn 11 am y tro olaf. Roedd y disgyblion oll wedi gwisgo’n smart ac ambell un yn cyrraedd yr ysgol mewn steil!  Cafwyd gwledd yn y neuadd gan gofio am yr amseroedd da a gafwyd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Cyflwynwyd gwobrau i’r disgyblion hynny am eu hamrywiol ymdrechion hefyd.

Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith trefnu a dymuniadau gorau i flwyddyn 11 yn y dyfodol gan edrych ymlaen at groesawu nifer helaeth ohonoch yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi.