Dosbarth Celynen yn Garddio

Fel rhan o brosiect Hau Hadau Gerddi Bro Ddyfi, a ariennir gan Y Loteri Fawr, bu plant dosbarth Celynen yn planu blodau gwyllt, mewn gwely blodau  pwrpasol wrth fynedfa’r ysgol.  Bu’r wirfoddolwraig a’r cydlynydd, Angela Paxton, a’r arweinydd cynorthwyol, Anna Fisher, yn gweithio gyda phlant o’r flwyddyn derbyn a Blwyddyn 1 & 2. Cafodd y planhigion eu dewis er mwyn hyrwyddo bywyd gwyllt a chreaduriaid cynhennid megys gwenyn a glonod byw. Edrychwn ymlaen i weld y planhigion hyn yn eu blodau.