Prosiect Busness Helygen

Yn ddiweddar, bu dosbarth Helygen yn rhedeg stondin snac iach o’r enw Snactastic fel rhan o brosiect menter a busnes.  Y disgyblion fu’n gyfrifol am gynllunio’r stondin oedd yn gwerthu snaciau iach; o’r gwaith marchnata a hysbysebu i archebu snaciau a rhedeg y stondin. Buont yn cadw cyfrifon o’r gwariant a’r gwerthiant a’r nod oedd cynhyrchu elw!