Gweithdy Tipyn o Gês

Bu dosbarth Onnen yn ffodus iawn i ennill cystadleuaeth i gael gweithdy creadigol “Tipyn o Gês” i ymweld â’r dosbarth. Daeth Llinos Mair awdur cyfres Wenfro i’r dosbarth a chynnal y gweithdy. Spardun y gweithdy oedd y stori “Parti Barti”. Roedd hyn yn gweddi’n hyfryd gyda ein thema “Y môr”. Dysgom am ailgylchu, llygredd y môr a gofal yr amgylchedd. Cawsom lawer o hwyl a phrofiad arbennig. Yn dilyn y sesiwn gyda Llinos aethom ymlaen i greu cychod allan o ddeunyddiau ailgylchu.