Ysgol Bro Hyddgen – canlyniadau TGAU ardderchog eto eleni
5 A* i C – 81.1%
5 A* C yn cynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg – 67.9%
5A*-A – 18.9%
29.9% o’r graddau yn A*-A
Mae Ysgol Bro Hyddgen eto eleni wedi sicrhau canlyniadau TGAU rhagorol eto eleni, ac mae’r rhain yn adeiladu’n llwyddiannus ar ganlyniadau ardderchog y llynedd.
Enillodd 81.1% o’r disgyblion 5A*-C neu well. Roedd 29.9% o’r graddau’n A*/A neu gyfatebol – enillodd 18.9% o’r disgyblion o leiaf 5A*/A. Gwelwyd disgyblion oedd yn dilyn cyrsiau galwedigaethol hefyd yn cyflawni i safon uchel iawn gyda chyfradd pasio o 100%. Mae pob adran wedi llwyddi i sicrhau llwyddiannau canmoladwy, ac mae hyn yn adlewyrchiad o waith caled yr holl staff dysgu.
Canlyniadau sy’n haeddu sylw arbennig yw rhai’r canlynol:
Cerys Hickman: 9A*, 4A, 1B ac Anrhydedd mewn Mathemateg Ychwanegol
Myfanwy Fenwick: 6A*4A,1B a 3C
Emma Halls: 4A*, 6A, 3B a Pasio Mathemateg Ychwanegol
Tomos Chick: 3A*, 5A, 3B, 1C ac Anrhydedd mewn Mathemateg Ychwanegol
Alaw Jones: 2A*, 3A 4B a 4C
Malen Aeron: 2A*, 2A, 5B, 4C
Dafydd Jones: 1A*, 10A and 2B a Pasio Mathemateg Ychwanegol
Alex Monnox: 1A*, 5A, 4B, 2C, 1 Anrhydedd mewn TGCh a Pasio Mathemateg Ychwanegol
Dywedodd Mr Dafydd Jones, y Pennaeth: “Dymunaf longyfarch y disgyblion i gyd ar eu llwyddiannau rhagorol, a rwyn ddiolchgar iawn i’r staff am eu gwaith caled, ac i’r rhieni am eu cefnogaeth parhaus. Fel ysgol, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau’n bod yn cynnig cwricwlwm cytbwys ynghyd a chefnogaeth sylweddol sy’n sicrhau amser i ddisgyblion ddysgu a datblygu’n bersonol ynghyd a’u paratoi tuag at eu arholiadau. Mae’r agwedd hon yn meithrin llwyddiant fel y gwelir o ganlyniadau Safon Uwch canmoladwy iawn. Edrychaf ymlaen i groesawu llawer o’n disgyblion ni’n ol i’r chweched dosbarth flwyddyn nesaf, lle bydd nifer sylweddol o fyfyrwyr newydd yn ymuno a hwy o du hwnt i’n dalgylch. Pob dymuniad da hefyd i’r disgyblion hynny fydd yn mynd ymlaen i golegau addysg bellach ac i ddechrau yn y byd gwaith.”