Sioe Nadolig y Cyfnod Sylfaen – “Strictly ‘Dolig”. 
Cyflwyniad o Stori’r Geni ar ffurf y rhaglen deledu poblogaidd “Strictly Come Dancing”. Mae pobl Nasareth yn dawnsio dawns llinell; Seren Bethlehem yn dawnsio disco; bugeiliaid a’u defaid yn dawnsio gwerin, angylion yn dawnsio ballet, pobl y llety yn dawnsio’r Tango, ac mae’r camelod a’r tri gŵr doeth hefyd yn dawnsio! Mae gennym dri beirniad unigryw i gadw sgôr: yr asyn, gwraig y llety ag Agwstws Cesar. Bydd y cyflwynwyr a’r rheolwyr llawr yn gweithio’n ddiwyd yn rheoli a cheisio chadw trefn ar y gynulleidfa. Heb anghofio’ côr o’r Dosbarth Derbyn ac wrth gwrs ymddangosiad arbennig gan Mair a Joseff. Sioe Fab-u-lous darlings!