Llais y Disgybl

 

Mae’r ysgol yn falch o gyhoeddi bod Eowyn Vaughan a Connor Farmery wedi cael eu dethol yn Llysgenhadon Gwych i’r Comisiynydd Plant, Sally Holland. Cyfrifoldeb y llysgenhadon yw hyrwyddo  Hawliau’r Plentyn a sicrhau bod llais y disgybl yn cael gwrandawiad teg yn yr ysgol. Cwblhawyd holiadur gan blant CA2 llynedd a bydd y llysgenhadon yn edrych ar y canfyddiadau ac yn trafod gyda staff sut i wella’r ddarpariaeth lles ar gyfer disgyblion yr ysgol. Llynedd hefyd lluniwyd siarter ar gyfer y Campws Cynradd drwy ofyn i bob dosbarth ddethol un o’r hawliau ar gyfer eu hyrwyddo.

Gweler: https://www.complantcymru.org.uk/ccuhp-hawliau-plant/

 

Detholwyd y plant canlynol  o Flwyddyn 6 yn Gapteiniaid Ysgol ac maen nhw eisoes wedi cyflawni gwaith da yn cyflwyno gwasanaethau Clod y Pennaeth.

  • Lottie Cook
  • Amelia Garrod
  • Dafydd Jenkins
  • Loti Pilcher
  • Cian Roberts
  • Cadi Speake
  • Ela Thomas
  • Kia Wright

 

Cynhaliwyd etholiadau gan bob dosbarth ac etholwyd cynrychiolwyr i’r Cyngor Ysgol Cynradd fel a ganlyn:

  • Jessica Fletcher
  • Sophie Jones
  • Troy Jones
  • Ella May Hughes
  • Cadi Thomas
  • Alice Cox
  • Emily Heard
  • Nansi Bell
  • Elin Lloyd

 

Detholwyd y plant canlynol i fod yn Llysgenhadon Chwaraeon a chawsant ddiwrnod buddiol o hyfforddiant yn Ysgol Glantwymyn ddydd Mercher 26 Medi. Diolch yn fawr i Mr Jonathan Roberts, Swyddog Datblygu Chwaraeon yn y Gymuned, am gydlynu’r rhaglen werthfawr yma er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd chwareon a chadw’n iach ymysg  plant.  Cynhaliwyd gwasanaeth ysbrydoledig gan y Llysgenhadon Chwaraeon ddydd Gwener 5 Hydref.

  • Betsan Behnan
  • Sienna Coleman
  • Rhys Evans
  • Jake Humphreys
  • Zara Jones
  • Leo Nicholas
  • Finlay Thapa
  • Nancy Tucker-Anthony