Diwrnod y Llyfr
Roedd cyffro mawr ar y Campws Cynradd ddydd Iau 7 Mawrth wrth i’r disgyblion ddathlu Diwrnod y Llyfr. Gwelwyd pob math o gymeriadau lliwgar a diddorol wrth i’r disgyblion wisgo fel hoff gymeriad o lyfr. Braf oedd croesawu Malachy Doyle i’r Adran Iau i gynnal gweithdy ysgrifennu gyda’r disgyblion. Cafwyd cyfle hefyd i’w holi am ei waith a’i hanes, ynghyd â gwrando arno’n darllen rhai o’i straeon. Yn y Cyfnod Sylfaen daeth y berfformwraig Cêt Haf a’r awdures Felicity Elena Haf i gynnal gweithdy yn seiliedig ar y llyfr Begw Haf. Roedd y plant wrth eu bodd cael gweld y cymeriad yn fyw o flaen eu llygaid. Diolch i Diane Bailey o Siop Lyfrau Penrallt am gynnal stondin gydag amrywiaeth o lyfrau ar werth er mwyn i’r disgyblion brynu llyfr o’u dewis. Diwrnod gwerth chweil!