Ffug Gyfweliadau Blwyddyn 13

Ddydd Gwener, 22 Mawrth, daeth dros ugain o swyddogion proffesiynol ledled Cymru draw i Fro Hyddgen i holi cwestiynau di-ri i fyfyrwyr Blwyddyn 13 fel rhan o’u ffug gyfweliadau. Cyn camu ymlaen i’r ‘byd go-iawn’ ein gobaith fel ysgol yw bod y myfyrwyr yn gadael y chweched gyda chymwysterau llwyddiannus ond hefyd wrth gwrs wedi eu harfogi mewn sgiliau o bob math, gan gynnwys sgiliau cyfweld. Gall y rhan fwyaf ohonom uniaethu â’r teimlad rwy’n siŵr o orfod cerdded i’r stafell, y chwys yn diferu a’r galon yn curo’n gyflym cyn gorfod poeri atebion dryslyd o geg sych. Wel, yn ystod y diwrnod hwn braf oedd gweld y myfyrwyr oll yn miniogi eu sgiliau gan dyfu mewn hyder fesul eiliad. Diolch i bawb a fu ynghlwm â’r gwaith trefnu – mae’n debyg mai cyfweliad yn y ‘byd go-iawn’ fydd y cyfweliad nesaf, felly, ymlaciwch, rydych chi gyd yn hen law arni bellach!