Gwersi Yoga

Diolch i gefnogaeth gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, sicrhawyd cyllid i dalu am wersi yoga i blant Blwyddyn 2 – 5. Rydym yn ffodus bod Siân Davies a Regina Hellmich – athrawon yoga profiadol – yn gallu darparu’r gwersi hyn. Dyma ddarpariaeth bwysig i hyrwyddo lles a iechyd emosiynol y disgyblion. Edrychwn ymlaen at wersi i staff a rhieni ar ôl yr hanner tymor!