Gŵyl Gyrfaoedd Powys

Ar y 6fed o Fawrth 2018 ar safle Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, mynychodd Blwyddyn 9, 10 a 12 Gŵyl Gyrfaoedd Powys.  Amcan yr ŵyl oedd darparu cyfleoedd i wella gwybodaeth myfyrwyr Powys am yr opsiynau sydd ar gael ôl-16 fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am eu bywydau.  Ar gael yno ‘roedd gwybodaeth am brentisiaethau, prifysgolion, y lluoedd Arfog a phrofiad Gwaith.