Gweithdy Bygis Modur

 

Ddydd Mawrth 19 Mawrth, fel rhan o’n gwersi Gwyddoniaeth a Thechnoleg y tymor hwn,  bu dosbarth Helygen yn amgueddfa Enginuity yn Ironbridge.

Roedd yn gyfle arbennig i fanteisio ar arbenigedd ac adnoddau yr amgueddfa er mwyn datblygu sgiliau gwyddonol, technoleg, llythrennedd a rhifedd y disgyblion. Yn ogystal, bu cyfle i’r disgyblion ymweld ag arddangosfa gwyddoniaeth a pheirianneg ryngweithiol yr amgueddfa.

Cydweithiodd y disgyblion mewn grwpiau i ddylunio a gwneud bygis modur. Uchafbwynt y diwrnod heb os oedd profi’r bygis pan gynhaliwyd ras a chafwyd amserau hynod o gyflym gan bob bygi!

Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am roi cyfraniad hael tuag at y costau.