Beth sy’n newid?

Y newid mwyaf yw cwricwlwm newydd i ysgolion a lleoliadau a gyllidir nas cynhelir (megis lleoliadau gofal dydd sesiynol fel grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin neu feithrinfeydd dydd preifat sydd wedi’u cofrestru i ddarparu addysg) yng Nghymru o fis Medi 2022 ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar bob ysgol, ac eithrio ysgolion annibynnol. Mae’r cwricwlwm wedi’i lunio yng Nghymru gyda’r syniadau gorau o bob cwr o’r byd yn dylanwadu arno.

Bydd hefyd newidiadau i’r ffordd rydym yn asesu plant a phobl ifanc mewn addysg, yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn darparu hyfforddiant ac atebolrwydd athrawon ac ymarferwyr. Bydd y gwelliannau hyn yn ategu’r cwricwlwm newydd.

Gweler linc isod:

https://llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid