Eleni, o dan ofal Mrs Jane Baraclough, bu disgyblion blwyddyn 10, 11 a 12 yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Tabernacle. Yr her oedd cyflwyno darn o waith ar ganfas, ar y thema hanes. Thema agored oedd yn tanio dychymyg y disgyblion oedd ‘Hanes’, wrth iddynt gyflwyno ystod eang o waith o Dryweryn i Glyndŵr, Cerrig yr orsedd i ryfel.

Fel ysgol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gwaith Swyn Hughes Blwyddyn 12 wedi ennill y gystadleuaeth i oedran 12-17. Roedd ei gwaith hi yn seiliedig ar stryd ym Mlaenau Ffestiniog. Defnyddiwyd y dulliau printio sgrin, brodwaith peiriant a Gutta. Llongyfarchiadau mawr Swyn, rwyt ti’n llawn haeddu dy wobr. Caiff y gwaith ei arddangos yn y Tabernacl tan ddiwedd yr haf i bawb ei fwynhau.