Prynhawn dydd Mawrth, 9 Gorffennaf, cynhaliwyd mabolgampau CA2. Bu’r plant o’r 4 tîm: Crewi, Dulas, Dyfi a Llyfnant, yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, yn cynnwys rasys rhedeg cyflym a thros bellter; rasys cyfnewid; rasys rhwystr a mini marathon. Braf iawn oedd gweld cymaint yn mwynhau ac ysbryd o gystadleuaeth iach yn cynnal y prynhawn. Cafwyd sawl ras agos iawn a rhai yn croesi’r llinell gyda thipyn o steil. Gyda thîm Dyfi wedi bod ar y blaen drwy’r prynhawn, dangosodd tîm Crewi sut mae dyflabarhad a gwaith tîm yn gallu dwyn ffrwyth. Canlyniad y prynhawn:

  • Crewi & Dyfi – cyntaf.
  • Llyfnant – ail.
  • Dulas – trydydd.

Yn y llun gwelir Capteiniaid Crewi a Dyfi: Lottie, Cadi, Kia, Dafydd ac Amelia; hefyd Zara – Llysgennad Chwaraeon tîm Crewi, a Jessica – cynrychiolydd Dyfi ar y Cyngor Ysgol.