Ar drothwy tymor yr haf bu’r ysgol yn cryfhau cysylltiadau gyda’r Cylch Meithrin a MCCP (Machynlleth Community Children’s Playgroup). Mae Miss Iona Davies, Arweinydd y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn ymwled â’r Cylch ac â MCCP ac mae’n wir dweud bod y plant yno wedi’u cyfareddu gan ei dawn dweud sotri a siwr braidd yn edrych ymlaen at y diwrnodau Trosglwyddo fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf. Edrychwn ymlaen at groesawu llond dosbarth o blant bach newydd i’r Dosbarth Derbyn ym mis Medi.