Ddydd Gwener, 12 Gorffennaf, aeth dosbarthiadau Derwen a Masarnen ar daith i ymweld â Gorsaf RNL.I Aberystwyth ac i archwilio pyllau dŵr wrth lan y môr, fel rhan o’u halldaith y tymor hwn.

Wedi iddynt dderbyn gwahoddiad i deithio ar y trên, roedd llawer iawn o gynnwrf wrth i’r trên gyrraedd yr orsaf ym Machynlleth er mwyn cychwyn ar eu taith.

Cafwyd diwrnod arbennig wrth gael ein tywys o amgylch yr orsaf RNLI gan glywed storiau a chasglu ffeithiau di-ri.

Yna, aethant lawr at y traeth i wneud ymholiad ar ba fath o greaduriaid y gallent eu darganfod yn y pyllau dŵr wrth lan y môr, cyn troi eu sylw at greu creadur y môr gan ddefnyddio beth bynnag oedd wrth law ar y traeth. Bu rhai grwpiau yn greadigol iawn!

Diwrnod gwerth chweil.