Nos Iau, Mehefin 20, cafwyd prom llwyddiannus ar y campws uwchradd wrth i ni fel ysgol ffarwelio gyda Blwyddyn 11 am y tro olaf. Cafwyd gwledd yn y neuadd a chyflwynwyd gwobrau i’r disgyblion hynny am eu hymdrechion amrywiol.

Diolch yn fawr i bawb am eu gwaith trefnu a dymuniadau gorau i flwyddyn 11 yn y dyfodol gan edrych ymlaen at groesawu nifer ohonoch yn ôl i’r chweched dosbarth ym mis Medi.