Gweithdy Llusernau

Ddydd Gwener, 25 Hydref, cafodd holl blant dosbarthiadau Bl 3, 4 , 5 & 6 gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy llusernau. Cynlluniwyd a chrëwyd llusern odidog ar gyfer yr Orymdaith Lusernau flynyddol a gynhaliwyd nos Sadwrn, 2 Tachwedd. Mae’r ysgol yn falch iawn o gyhoeddi mai llusern y Campws Cynradd enillodd y wobr am y llusern orau yn y gystadleuaeth rhyng-ysgol. Diolch enfawr i’r gwirfoddolwyr ddaeth i’r ysgol i arwain y gweithdai a rhoi cyfle i blant ymarfer eu doniau creadigol.