Sioe Nadolig y Campws Cynradd

Hwyl yr Ŵyl

Daeth y tymor i ben ar nodyn uchel a Nadoligaidd iawn wrth i blant Blwyddyn 3 – 6 berfformio’r sioe Hwyl yr Ŵyl i gynulleidfa o rieni balch.

Addasiad o’r ffilm boblogaidd Nativity yw’r sioe sy’n dilyn hynt a helynt Mr Poppy (Max Williams) a’i fodryb, Mrs Bevan (Nancy Tucker-Anthony), Miss Maddens (Sanna El-Radhi-Hall) a’i chariad, Mr John  (Hari Smith), mewn ysgol nid annhebyg i Ysgol Bro Hyddgen ar adeg y Nadolig.

Wrth i’r cymeriadau hyn ddod i ddeall ei gilydd yn well mewn cyfres o olygfeydd hwyliog, cafodd y gynulleidfa eu diddanu gan ganu swynol a dawnsio hyfryd – gwledd yn wir i’r glust a’r llygad.

Bu’r staff yn gweithio’n ddiwyd iawn yn hyfforddi’r plant i actio, llefaru, canu ac actio dan arweiniad Mrs Ann Eleri Thomas oedd hefyd yn gyfrifol am y sgript a’r cyfarwyddo. Perfformiad fydd yn siŵr o aros yn hir yn y cof.