Ers dechrau’r tymor, rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd cynghorau ysgol i drafod pynciau amrywiol a chael barn y disgyblion. Ein prif flaenoriaethau fel cyngor ysgol yw fel a ganlyn:

  • Y Siarter Iaith a hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod
  • Gwaith elusennol, e.e. targedu polio, cefnogi elusen canser a phlant, Diabetes UK, Ambiwlans Awyr Cymru
  • Targedu homoffobia, rhywiaeth a hiliaeth yn yr ysgol
  • Ail-sefydlu’r eco-bwyllgor ar y campws eilaidd
  • Ystyried beth sy’n waith cartref defnyddiol

 

Rhai o’r ffyrdd yr ydym am fynd i’r afael â’r rhain yw:

Rydyn ni’n gobeithio trefnu digwyddiadau fel disgos gyda bandiau Cymraeg a cherddoriaeth i helpu i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Trefnu diwrnodau dillad eich hun ond hefyd ffyrdd amgen eraill o godi arian at elusen. Enghraifft o hyn fyddai ffurf un o aelodau’r cyngor ysgol Ieuan Jones yn trefnu sioe ‘Who Wants to be a millionaire’ yn ystod amser cinio i helpu i godi arian ar gyfer plant mewn angen. Prif flaenoriaeth y Prif Ddisgyblion eleni yw mynd i’r afael â homoffobia, rhywiaeth a hiliaeth yn yr ysgol i sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei werthfawrogi yn yr ysgol. I gyflawni hyn mae Cerys wedi cychwyn grŵp o ddisgyblion o’r un anian yn yr ysgol i gefnogi ei gilydd a hoffent ddechrau trefnu gweithdai a gwasanaethau. Yn y dyfodol hoffem barhau â’r gwaith o godi arian drw drefnu pethau fel gemau pêl-droed yn erbyn yr athrawon i godi arian i’r elusennau hefyd. Hoffem hefyd barhau â’r cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau ein bod yn clywed barn y disgyblion a’u barn ar y pwnc.

Alex Monnox