Taith Gwlad y Basg

Dyfarnwyd grant ERASMUS + i’r ysgol i weithio gyda phartneriaid mewn safleoedd UNESCO eraill fel Dyffryn Dyfi neu Wlad y Basg (Sbaen) a Mount Olympus (Patras, Gwlad Groeg). Mae’r ysgol yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant (Canolfan technoleg amgen a Geo Smart Decisions) i ddatblygu adnoddau addysgu ac ap i helpu i gofnodi data ar amgylchedd addysgol ac i hyrwyddo gwyddoniaeth ddinasyddol. Fel rhan o’r grant roeddem yn gallu ariannu 18 o ddisgyblion o flwyddyn 8 i ymweld â Gwlad y Basg i brofi a datblygu ymhellach fersiwn gyntaf yr ap rydyn ni’n ei ddatblygu gydag ysgolion eraill. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymweld â Mount Olympus yng Ngwlad Groeg ym mis Mawrth i ddatblygu’r ap ymhellach ac i roi cynnig ar y deunyddiau addysgu newydd rydyn ni wedi’u creu gydag ysgolion eraill. Ewch I’r wefan i gael mwy o wybodaeth!