Dydd Miwsig Cymru

 

Am gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Hydref 2019, daeth Branwen ac Osian Williams i gydweithio gyda holl ddisgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Bro Hyddgen i gyd-gyfansoddi dwy gân Gymraeg. Roedd hyn yn rhan o alldaith a drefnwyd gan yr adran Gymraeg a’r adran Gerddoriaeth fel paratoad at ddyfodiad y Cwricwlwm Newydd.  

Pen llinyn y gweithdai hyn oedd gwahodd Candelas yn eu holau i Fro Hyddgen i berfformio’r ddwy gân ar y cyd gyda disgyblion Blwyddyn 8 ar Ddydd Miwsig Cymru. Braf iawn oedd gweld disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yr ysgolion cynradd cyfagos yn dod aton ni’r prynhawn hwnnw a phawb wrthi’n mwynhau yn arw’n gwrando ar rai o hen ffefrynnau’r band poblogaidd o Lanuwchllyn.

Yn ystod y prynhawn, bu disgyblion Blwyddyn 8 yn gwerthu eu CDs ac ar y CDs hynny roedd y ddwy gân a gyfansoddwyd gan y disgyblion eu hunain. Mae modd prynu’r CDs drwy gysylltu â’r ysgol.

Dymuna’r ysgol ddiolch i bawb fu ynghlwm â’r digwyddiad.