Coronafeirws – COVID-19

Cyngor ac arweiniad ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir Powys 26 Chwefror 2020

Cefndir

Math o firws yw coronafeirws. Fel grŵp, mae coronafirysau yn gyffredin ar draws y byd. Mae coronafeirws newydd Wuhan yn fath newydd o goronafeirws a nodwyd gyntaf yn Ninas Wuhan, Tsienia. Mae hyn wedi lledu i wledydd eraill.

Mae symptomau cyffredin coronafeirws yn cynnwys twymyn a pheswch a allai ddatblygu i niwmonia difrifol sy’n achosi diffyg anadl ac anawsterau anadlu. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â’r feirws yn gwella’n dda, ond mae’n gallu achosi symptomau mwy difrifol i bobl sydd â systemau imiwnedd gwan, problemau’r galon, yr arennau, clefyd yr afu, pobl hŷn, a’r rhai sydd â chyflyrau hirdymor fel diabetes, canser a chlefyd cronig yr ysgyfaint.

Cyngor teithio Os ydych yn datblygu peswch, tymheredd uchel neu’n teimlo’n fyr o anadl o fewn 14 diwrnod ar ôl dychwelyd o:

* Tsieina

* Gwlad Thai

* Japan

* Gweriniaeth Korea

* Hong Kong

* Taiwan

* Singapôr

* Malaysia

* Macau

* Gogledd yr Eidal

Dylech:

* aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw

* Ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 i roi gwybod iddynt eich bod wedi teithio’n ddiweddar i’r ardal hynny.

Dilynwch y cyngor hwn hyd yn oed os nad yw eich symptomau’n rhai difrifol neu os nad yw symptomau’r feirws arnoch.

Os ydych chi wedi teithio o Wuhan neu Dalaith Hubei i’r DU yn y 14 diwrnod diwethaf, dylech ar unwaith:

* aros gartref ac osgoi cysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda’r ffliw

* Ffonio Galw Iechyd Cymru ar 111 i roi gwybod iddynt eich bod wedi teithio’n ddiweddar i’r ardal hynny.

Dilynwch y cyngor hwn hyd yn oed os nad yw eich symptomau’n rhai difrifol neu os nad yw symptomau’r feirws arnoch.

Gellir cael y wybodaeth ddiweddaraf a chyngor teithio o’r canlynol:

* Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd Lloegr (PHE)<gov.uk/guidance/wuhan-novel-coronavirus-information-for-the-public>

* Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO)<gov.uk/foreign-travel-advice/china>

* Llywodraeth Cymru<gov.wales/coronavirus>

* icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws-newydd

Cyngor ac Arweiniad ar y Coronafeirws

Mae lledaeniad coronafeirws yn sefyllfa sy’n newid yn gyflym. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws-newydd yn diweddaru eu cyngor am 3 p.m. bob dydd. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am y wybodaeth, cyngor ac arweiniad diweddaraf am y coronafeirws.