20 Mawrth 2020

Annwyl Rieni / Gofalwyr

Diweddariad

Darparu Gofal i Blant Gweithwyr Allweddol

Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth a’r awdurdod Addysg Lleol, bydd yr ysgol ar agor i blant Gweithwyr Allweddol  a phlant mewn gofal YN UNIG, ddydd Llun a dydd Mawrth 23 & 24 Mawrth. Wedi hynny, bydd yr Awdurdod Lleol yn aseinio nifer gyfyngedig o ganolfannau i darparu gofal, gyda chefnogaeth staff ysgolion o bob rhan o’r awdurdod.

 

Am ddiffiniad o Weithwyr Allweddol gweler: https://www.gov.uk/government/publications/coronavirus-covid-19-maintaining-educational-provision/guidance-for-schools-colleges-and-local-authorities-on-maintaining-educational-provision

 

Os ydych chi’n syrthio i’r categori Gweithiwr Allweddol, sydd a phlentyn sydd DDIM yn y categori mewn pryder, ac mae angen gofal ar eich plentyn/plant, gofynnwn yn garedig i chi cwblhau’r ddolen Survey Monkey ar dudalen we’r ysgol ar y cyfle cyntaf posib er mwyn i ni drefnu bod staff ar gael i warchod eich plant. Gofynnwn i chi hefyd ystyried yn ofalus y cyngor a’r canllaw a geir yn y ddolen uchod, ac yn benodol:

  • Os oes unrhyw bosibilrwydd, dylid cadw eich plant gartref
    • Y lleia o blant sydd yn yr ysgol, y lleia yw’r peryg o ledaenu’r feirws
  • Ni ddylid dibynnu ar bobl sydd wedi eu cynghori’n benodol i gadw pellter cymdeithasol gofalus h.y. pobl dros 70 oed, ffrindiau a theulu sydd â chyflwr iechyd neilltuol
  • Dylid gwneud bob dim posib i sicrhau bod plant hefyd yn ymarfer yr un egwyddorion cadw pellter cymdeithasol ag oedolion
    • Mewn gair mae gofyn i bawb newid eu harferion cymdeithasol

Plant Sy’n Derbyn Prydau Ysgol am Ddim

Bydd yr ysgol yn darparu bocs bwyd i blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Os ydych yn gymwys ac am dderbyn y ddarpariaeth yma, gofynnwn i chi roi gwybod i’r ysgol ac i ddod i’r Campws Cynradd i gasglu’r bwyd rhwng 11.00am – 1.00pm

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth yn ystod yr amser argyfyngus yma yn ein hanes.

 

Yn gywir

 

Dafydd M B Jones

Pennaeth