Annwyl Riant/Ofalwr
Yn dilyn blwyddyn lle mae’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd wedi bod ar stop, dwi’n falch o allu dweud fy mod wedi bod mewn cyfarfod i drafod ail ddechrau’r gwaith yn ddiweddar. Nid wyf yn siwr pryd bydd yr adeilad newydd yn agor ond mae pethau yn bositif iawn ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymweliad craidd ym mis Tachwedd mae disgwyl i ni fod yn ysgol categori felyn sydd yn ein gosod yn 50% uchaf trwy Gymru. Fodd bynnag, mae ein ystadegau presenoldeb yn ein gosod yn y categori coch ac yn ein rhwystro rhag cyrraedd y categori gwyrdd 75% uchaf. Felly hoffwn ofyn i chi ystyried yn ofalus cyn mynd a’ch plant ar wyliau neu eu tynnu allan o’r ysgol yn ystod y tymor.
Rydym wedi dechrau system lle ydym yn gwobrwyo plant am bresenoldeb dros 98% lle byddant yn cael cyfle i ennill ipad. Byddwn hefyd yn gwobrwyo plant sy’n bresennol am 100% o’r amser.
Mae llawer o weithgareddau buddiol iawn wedi digwydd ar draws y ddau gampws fel y gwelwch yn y cylchgrawn hwn. Hoffwn ddiolch i bob aelod o staff am fod mor weithgar a chydwybodol wrth addysgu eich plant a sicrhau eu bod yn cael profiadau gwych.
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd dda i bawb,
Yr eiddoch yn gywir
Dafydd M B Jones
Pennaeth
Ysgol Bro Hyddgen