Darparu dyfeisiau i ddysgwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol

 Bydd dysgwyr ym Mhowys sydd heb y defnydd o ddyfais sy’n cysylltu â’r we gartref yn derbyn dyfais o’r fath dros y pandemig coronafeirws, dywedodd y cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio ag ysgolion ar draws y sir i adnabod y dysgwyr hynny sydd wedi’u heithrio’n ddigidol a helpu eu teuluoedd sydd heb ddyfeisiau addas na wi-fi.

Diffiniad o ddysgwr sydd wedi’i ‘eithrio’n ddigidol’ yw myfyriwr sydd heb fynediad at ddyfais sy’n cysylltu â’r we er mwyn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein o’r cartref.

O heddiw (dydd Llun 4 Mai), bydd disgyblion yn derbyn dyfais i’w helpu i barhau â’u haddysg o adref.  Bydd yr ysgol uwchradd glwstwr yn cysylltu â rhieni i roi diwrnod ac amser i gasglu dyfais bwrpasol o’r ysgol.

Mae’r cyngor hefyd wedi gofyn am 500 o ddyfeisiau cysylltedd MiFi 4G gan Lywodraeth Cymru a fydd ar gael i deuluoedd sydd heb wi-fi yn y cartref pan fyddan nhw ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: “Mae hwn yn gyfnod unigryw a heriol i bawb, yn arbennig ein plant a’n pobl ifanc sydd wedi gweld eu bywydau’n newid yn sylweddol ar ôl cau ysgolion.

“Mae dysgu o adref erbyn hyn yn angenrheidiol o ganlyniad i’r pandemig, ond rydym yn cydnabod bod hyn yn her i nifer o deuluoedd ar draws y sir.  Mae yna nifer o deuluoedd sydd heb ddyfais yn y cartref na wi-fi ac mae’n bwysig ein bod ni’n helpu’r teuluoedd hynny trwy ddarparu’r dyfeisiau hyn fel bod disgyblion yn gallu parhau â’u haddysg.

“O gofio natur wledig ein sir, ni fydd signal 4G ym mhobman.  Rydym yn sylweddoli y bydd hyn yn broblem i deuluoedd sy’n byw yn y sir lle nad oes signal 4G sydd efallai’n gorfod teithio i rywle addas, diogel a lleol sydd â signal 4G i lwytho gwaith ysgol i’r plant ei wneud adref.

“Os oes yna deuluoedd sy’n teimlo nad yw hyn yn bosibl, dylent gysylltu â’r ysgol i drafod y ffordd orau o drefnu gwaith ysgol i’w plentyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Joy Jones, Eiriolwr y cyngor yn Erbyn Tlodi: “Mae nifer o deuluoedd ym Mhowys sydd heb liniadur na llechen na chyswllt wi-fi yn y cartref.  Mae’n braf gweld y cyngor yn gweithio gydag ysgolion i ddarparu dyfais i’r teuluoedd hynny.”