Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ –

Ymgyrch Cam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Rheolaeth drwy Orfodaeth

 #BywHebOfn

 

Annwyl bawb

 Nod ein hymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ yw hysbysu’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ddomestig, trais rhywiol a rheolaeth dan orfodaeth ar hyn o bryd bod cymorth yn parhau i fod ar gael 24 awr y dydd, bob dydd, drwy Byw Heb Ofn. Rydym hefyd am gyrraedd at unrhyw un sy’n parhau i fod mewn sefyllfa i helpu’r rhai allai fod mewn perygl, gan gynnwys teulu, ffrindiau, darparwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr.

 Mae sawl ffordd o gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn i gael cymorth, cyngor a chefnogaeth – dros y ffôn ar 0808 8010800, sgwrsio byw, negeseuon testun neu e-bost. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

 Mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar y teledu (Sky AdSmart ac S4C), radio lleol a chymunedol, Spotify, y cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol.

 Rydym wedi datblygu ‘Pecyn Partner’ ar gyfer yr ymgyrch sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch a dolen at yr hyfforddiant ar-lein sydd ar gael, ynghyd â delweddau’r ymgyrch a negeseuon cyfryngau cymdeithasol.

 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn/cadw-eich-hun-yn-ddiogel-yn-ystod-argyfwng-y-coronafeirws

 Sut y Gallwch Chi Helpu

 Gallwch helpu’r ymgyrch drwy wneud y canlynol: 

  • Rhannu’r negeseuon sydd ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol: Twitter a Facebook
  • Tagio’r ymgyrch yn eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #BywHebOfn #LiveFearFree
  • Cynnwys gwybodaeth ar eich gwefan, yn eich cylchlythyron a’ch negeseuon e-bost, a thrwy lawrlwytho ac arddangos posteri a delweddau ar sgriniau digidol.
  • Cwblhau’r modiwl e-ddysgu VAWDASV ac annog eraill i wneud hynny hefyd.

 Os oes angen yr wybodaeth arnoch ar fformat wahanol ar gyfer eich sianeli, cysylltwch â ni: VAWDASV@llyw.cymru

Gellir lawrwytho holl ddeunyddiau’r ymgyrch (jpegs, posteri a negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol) yma:

https://llyw.cymru/ddylai-neb-deimlon-ofnus-gartre-deunyddiau