Cynllun Dysgu o Bell yn cael ei gyhoeddi
Mae Cyngor Sir Powys wedi cynhyrchu canllaw gwybodaeth i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi iechyd emosiynol, lles a dysgu eu plant yn y cartref.
Mae Cynllun Dysgu o Bell Powys yn nodi’r ffordd ymlaen ar gyfer dysgu yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae’r cynllun yn rhoi cyngor i rieni a gofalwyr am yr hyn y disgwylir ganddynt a sut y gallant helpu eu plant gartref.
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn am yr holl waith y mae rhieni a gofalwyr yn eu gwneud i gefnogi eu plant gyda’u dysgu gartref.
“Bellach mae plant wedi bod gartref ers sawl wythnos ac mae’n bosibl y bydd y trefniadau presennol yn parhau am y dyfodol rhagweladwy. Mae Gweinidog Addysg Cymru wedi’i gwneud yn glir y bydd ysgolion yn parhau i fod ar gau tan y bydd yn ddiogel i’w hailagor.
“Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu ar draws y cwricwlwm i’n plant a’n pobl ifanc ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y gallant ddal i fyny yn gyflym pan fydd ein hysgolion yn ailagor.
“Fodd bynnag, rydym am ei wneud yn glir i rieni a gofalwyr nad ydym yn disgwyl iddynt ddysgu eu plant gartref yn ystod y cyfnod ansicr hwn – ni allant ymgymryd â rôl athro na chyflwyno’r diwrnod ysgol yn eu cartref eu hunain.
“Drwy weithio gyda’n gilydd – rhieni, plant, penaethiaid, athrawon, llywodraethwyr, aelodau etholedig a swyddogion addysg – gallwn sicrhau bod plant yn ddiogel, yn iach ac yn mwynhau eu dysgu yn ystod y cyfnod hwn.”