Annwyl Disgybl/Rhiant/Gofalwr,

Eleni rydym yn datblygu ein gweledigaeth strategol newydd a fydd yn llywio cyfeiriad Gyrfa Cymru tan 2026. Rydym yn gwybod y bydd effaith pandemig Covid-19 yn cael ei deimlo am gryn dipyn o amser eto, ond mae’n amlwg bod yr angen am wasanaeth sy’n cynnig cyngor gyrfaol annibynnol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion o bob oed yng Nghymru yn hanfodol i gefnogi’r adferiad economaidd.

Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid i ddatblygu’r weledigaeth newydd hon. Er mwyn ein helpu i ddatblygu ein gweledigaeth byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg yn:

Disgyblion: https://www.smartsurvey.co.uk/s/O156L1EdCust/

Rhieni/gofalwyr: https://www.smartsurvey.co.uk/s/IMQ2MYParents/

Diolch yn fawr

Nikki Lawrence, Prif Weithredwr, Gyrfa Cymru