Ysgolion i ailagor i bob disgybl o fis Medi

Mae Cyngor Sir Powys wedi croesawu’r cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg heddiw i ganiatau’r ysgolion sy’n gallu gwneud hynny’n ddiogel i ailagor o wythnos gyntaf mis Medi, gyda phob ysgol yn ailagor o 14 Medi.

Mae cynlluniau a pharatoadau lleol ar waith rhwng y cyngor ac ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau i sicrhau y gall ysgolion unigol groesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ysgolion sy’n gallu gwneud hynny yn ailagor o wythnos gyntaf y tymor.  Efallai y bydd angen blaenoriaethu rhai grwpiau penodol o ddysgwyr yn ystod wythnos gyntaf y tymor, megis Blynyddoedd 7, 12, 13 ac Unedau Arbennig ar gyfer Ysgolion Uwchradd ac Unedau Arbennig ar gyfer Blynyddoedd Cynnar a Blwyddyn 6.  Bydd rhieni’n derbyn rhagor o wybodaeth benodol o’u hysgolion a’r Awdurdod Lleol cynted ag y bydd ar gael.

O 14 Medi, bydd presenoldeb yn yr ysgol yn orfodol.  Gofynnir i rieni gysylltu â’u hysgol os nad yw disgybl yn gallu mynychu er mwyn trafod y mater ymhellach.

Bydd gan bob lleoliad ysgol ei heriau lleol i fynd i’r afael â nhw, gan gynnwys lefelau staff.  Mae gwaith yn mynd yn ei flaen gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau cludiant ysgol.  Bydd y cyngor a’r ysgolion yn cydweithio â’i gilydd i oresgyn a datrys unrhyw broblemau.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £29m i hybu cymorth i ddysgwyr i leihau effaith y tarfu oherwydd yr argyfwng parhaus.  Bydd hyn yn cyfateb i recriwtio 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf, targedu cymorth ychwanegol at Flynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed.  Bydd y cyngor yn gweithio gydag ysgolion i egluro’r manylion.

Dywedodd y Cyng. Phyl Davies, Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: “Dros y misoedd diwethaf, bydd llawer o ddysgwyr wedi teimlo’n bryderus am golli dysgu a pheidio â gallu gweld eu ffrindiau.  Rwy’n croesawu cynllun y Gweinidog i ganiatau ysgolion i groesawu disgyblion yn ôl ym mis Medi yn unol â’r holl fesurau diogelwch angenrheidiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod bod staff gweithgar mewn ysgolion, dysgwyr a’u teuluoedd o bosibl o dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol ychwanegol yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.  Byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag ysgolion a lleoliadau i ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion lles parhaus pob dysgwr ar yr adeg anodd hon.

“Mae’r argyfwng wedi amharu’n ddifrifol ar ddysgu disgyblion.  Bydd yr adduned o £29m gan Lywodraeth Cymru yn helpu i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r cam adfer, lleihau’r effeithiau ar ddisgyblion, a pharhau â’r gwaith sy’n mynd rhagddo i godi safonau ysgolion.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled a’u cefnogaeth dros y misoedd anodd hyn, ac rwy’n gwybod trwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau y bydd dychwelyd i’r ysgol yn nhymor yr Hydref yn llwyddiannus.”