Ar gyfer Calan Gaeaf

  • Gofynnwn i bawb feddwl sut y gallant gadw pawb yn ddiogel y Calan Gaeaf hwn gan beidio lledaenu Covid-19.
  • Ni chaniateir ‘Trick or Treat’ traddodiadol. 
  • Ni chaniateir partïon Calan Gaeaf yn eich cartref neu mewn lleoliad arall .
  • Peidiwch â chwrdd ag unrhyw un dan do nad ydych yn byw gyda ac ni ddylech gyfarfod â’ch ffrindiau dan do neu yn yr awyr agored.
  • Dathlwch gartref a pheidiwch a mynd allan.

 

Ar gyfer Noson Tân Gwyllt

  • Ni fydd coelcerthi cyhoeddus nac arddangosfeydd tân gwyllt yn cael eu cynnal eleni.
  • Ni chaniateir unrhyw ymwelwyr fynd mewn i’ch gardd ac os bydd arddangosfa  tân gwyllt yn eich gardd yn troi’n barti yn eich tŷ, byddwch yn torri’r gyfraith ac yn rhoi pawb mewn perygl o ddal y Coronafeirws. Bydd eich rhieni/gofalwyr yn torri’r gyfraith.
  • COFIWCH mae’n anghyfreithlon prynu Tân Gwyllt dan 18 oed – gall eich rhieni/gofalwyr cael eu herlyn.
  • Ni ddylech danio tân gwyllt mewn parc neu le agored cyhoeddus. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwahardd hyn.
  • Mae tanio tân gwyllt ar y stryd yn wrthgymdeithasol.  Gall fod yn risg tân ac mae’n erbyn y gyfraith. 

 

Rydyn ni’n gofyn i bawb gadw eu hunain a’u teuluoedd yn ddiogel ac i wneud eu gorau i atal rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys, sydd eisoes yn teimlo’r straen.

Yn ogystal, mae’r tîm Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion wedi recordio dau flog sy’n addas ar gyfer eu dangos mewn ysgolion. Dilynwch y linc canlynol i’w gwylio;

https://schoolbeat.cymru/cy/newyddion/calan-gaeaf-2020/

Diolch am eich cydweithrediad.