Mae Coronafeirws yn dal ar led ym Mhowys
Gyda rhai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos nesaf, anogir rhieni Powys i fod ar eu gwyliadwriaeth am Goronafeirws gan gadw plant sâl gartref.
Roedd holl ddisgyblion Powys i fod i ddychwelyd i’r ysgol ddydd Llun (Tachwedd 2) ar ôl toriad o bythefnos dros hanner tymor, ond mae cyflwyno cyfyngiadau Clo Llym a Byr Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd rhai yn parhau i astudio gartref.
Bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn ailagor fel arfer gyda blynyddoedd ysgol uwchradd saith ac wyth a phlant agored i niwed yn dychwelyd. Bydd disgyblion yn gallu mynychu ysgolion ar gyfer arholiadau, ond bydd yn rhaid i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 9 ac uwch barhau i ddysgu o gartref am wythnos.
Dywedodd Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Phyl Davies: “Gyda rhai disgyblion yn gallu dychwelyd i’r ysgol mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y firws rhag lledu. Anogaf deuluoedd i helpu trwy sicrhau bod aelodau sy’n sâl ac yn dangos unrhyw symptomau yn aros gartref ac yn dilyn cyngor meddygol. Mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i atal cynnydd pellach mewn achosion o’r coronafeirws. “
“Mae’n bwysig i bob un ohonom gofio bod Coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, a’r ffordd orau o atal y gadwyn heintio yw dod i gysylltiad â llai o bobl. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda chyfyngiadau cyfnod clo llym byr Llywodraeth Cymru yn parhau tan 9 Tachwedd.”
Prif symptomau Coronafeirws yw:
• tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu’ch cefn yn teimlo’n boeth o’i gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
• peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu dri neu fwy o gyfnodau o besychu o fewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)
• eich gallu i arogli neu flasu yn diflannu neu’n newid: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer.
Mae gan y rhan fwyaf o bobl â chlefyd coronafeirws o leiaf un o’r symptomau hyn.
Os oes gennych unrhyw symptomau, sicrhewch eich bod chi a’ch cartref uniongyrchol yn hunanosod ar unwaith. Ewch https://gov.wales/apply-coronavirus-covid-19-test neu ffoniwch 119 i archebu prawf.
Gallwn oll helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws:
• Arhoswch gartref
• Golchwch eich dwylo’n rheolaidd.
• Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth eraill.
• Peidiwch â chyfarfod unrhyw un nad yw’n byw gyda chi
• Gwisgwch orchudd wyneb mewn siopau, mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai bod esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny
• Gweithiwch gartref os gallwch.
“Mae pob un ohonom yn rhannu’r cyfrifoldeb personol o reoli lledaeniad y feirws. Gall y sefyllfa newid yn gyflym iawn. Drwy ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gallwn helpu i gadw Powys yn ddiogel.”
Mae ein tîm Profi, Olrhain, Diogelu yma ym Mhowys yn gweithio’n ddiflino i sicrhau ei fod yn olrhain achosion cadarnhaol, a bod cysylltiadau’n cael cynnig profion. Os ydych wedi’ch nodi fel cyswllt wedi’i gadarnhau, bydd ein tîm olrhain cyswllt ym Mhowys yn eich ffonio o 02921 961133.
Os cewch eich galw gan olrheiniwr cyswllt, helpwch nhw yn eu gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.