Coronafeirws ar led yn ysgolion Powys

Mae rhieni Powys yn cael eu hannog i fod ar eu gwyliadwraeth am Goronafeirws gan gadw plant sâl gartref hyd yn oed os yw’r symptomau’n ymddangos yn ysgafn iawn.

Dychwelodd y rhan fwyaf o ddisgyblion Powys i’r ysgol ar ôl cyfyngiadau’r Cyfnod Atal Byr cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ond gofynnir i rieni i gadw disgyblion gartref o’r ysgol os ydynt yn sâl.

Mae achosion newydd o’r Coronafeirws wedi’u cofnodi mewn ysgolion y sir ac wedi’u cysylltu â disgyblion a staff yn aros yn yr ysgol ar ôl mynd yn sâl sydd wedi sbarduno achosion newydd.

Dywedodd Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Addysg, y Cynghorydd Phyl Davies: “Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y feirws rhag lledu.  Hoffwn annog teuluoedd i helpu trwy sicrhau bod y rhai sy’n sâl ac yn dangos unrhyw symptomau yn aros gartref hyd yn oed os ydynt yn ymddangos fel symptomau ysgafn ac i ddilyn cyngor meddygol.  Mae angen i ni wneud popeth y gallwn i atal cynnydd pellach mewn achosion o’r coronafeirws.”

“Mae’n bwysig i bob un ohonom gofio bod Coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad gwirioneddol i iechyd y cyhoedd, a’r ffordd orau o atal y gadwyn heintio yw dod i gysylltiad â llai o bobl.

Prif symptomau Coronafeirws yw:

•                    tymheredd uchel: mae hyn yn golygu bod eich brest neu’ch cefn yn teimlo’n boeth o’i gyffwrdd (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)

•                    peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu dri neu fwy o gyfnodau o besychu o fewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall fod yn waeth nag arfer)

•                    eich gallu i arogli neu flasu yn diflannu neu’n newid: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer.

Mae gan y rhan fwyaf o bobl â chlefyd coronafeirws o leiaf un o’r symptomau hyn.

Os oes gennych unrhyw symptomau, sicrhewch eich bod chi a’ch aelwyd uniongyrchol yn hunan-ynysu ar unwaith. Ewch i https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19

neu ffoniwch 119 i archebu prawf.

Gallwn oll helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws:

•                    Arhoswch gartref

•                    Golchwch eich dwylo’n rheolaidd.

•                    Cadwch bellter cymdeithasol oddi wrth eraill.

•                    Peidiwch â chyfarfod unrhyw un nad yw’n byw gyda chi

•                    Gwisgwch orchudd wyneb mewn siopau, mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oni bai bod esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny

•                    Gweithiwch gartref os gallwch.

Mae ein tîm Profi, Olrhain, Diogelu yma ym Mhowys yn gweithio’n ddiflino i sicrhau ei fod yn olrhain achosion positif, a bod cysylltiadau’n cael cynnig profion. Os ydych wedi’ch adnabod fel cyswllt penodol, bydd ein tîm olrhain cyswllt ym Mhowys yn eich ffonio o 02921 961133.

Os cewch eich galw gan olrheiniwr cyswllt, helpwch nhw yn eu gwaith hanfodol i Gadw Powys yn Ddiogel.