Gorchuddion wyneb ac ysgolion

Dylai ymwelwyr ag ysgolion ym Mhowys, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gollwng neu’n codi eu plant, wisgo gorchuddion wyneb i’w cadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel rhag y coronafeirws, tyn ôl cyngor sir.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiweddariadau ar y canllawiau gweithredu ynglŷn â’r defnydd o orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae’r canllawiau bellach yn dweud bod y dylai gorchuddion wyneb gael eu defnyddio:

* gan ymwelwyr â’r holl ysgolion, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n gollwng ac yn codi plant

* ymhob ardal y tu allan i’r ystafell ddosbarth gan staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau

* ar drafnidiaeth sydd wedi’i neilltuo ar gyfer ysgolion a cholegau i ddysgwyr ym mlwyddyn 7 ac uwch.

Mae Cyngor Sir Powys yn atgoffa rhieni a gofalwyr yn ogystal â staff a dysgwyr y dylent ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i’w cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Portffolio’r Cabinet dros Addysg ac Eiddo: “Mae’r coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad go iawn i iechyd cyhoeddus ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i’w atal rhag lledaenu.

“Cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yw’r mesurau pwysicaf y mae’n rhaid i bawb ym Mhowys barhau i’w gweithredu. Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn gallu ychwanegu at y mesurau hyn, a sicrhau ein bod yn gwneud popeth a allwn i’n cadw ni ein hunain ac eraill yn ddiogel.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i helpu pobl i atal lledaeniad y coronafeirws a chadw ein hunain yn ddiogel. Mae’n bwysig bod rhieni, staff ysgolion a dysgwyr yn dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru i’w hamddiffyn eu hunain ac eraill.”