Gwybodaeth a dyddiadau ar gyfer dechrau’r tymor newydd
 

Annwyl Rieni / Gofalwyr,
Wrth i i ni ddod at ddiwedd y tymor a diwedd 2020, hoffwn i ddiolch i chi mewn
blwyddyn sydd wedi bod yn hynod o anodd a heriol.
Mae’r naw mis diwethaf wedi rhoi straen ychwanegol ar bawb, ond yn enwedig
rhieni a gofalwyr sydd wedi gorfod addasu wrth i’r pandemig effeithio ar ysgolion
ledled y sir.
Fodd bynnag, bydd Tymor y Gwanwyn yma’n fuan felly hoffen ni’ch hysbysu
ynghylch ein cynlluniau ar gyfer dysgwyr yn dychwelyd i’w lleoliadau ar ôl
gwyliau’r Nadolig.
Yn dilyn trafodaethau gyda phenaethiaid, swyddogion y blynyddoedd cynnar ac
undebau llafar, cytunwyd y bydd dydd Llun 4 Ionawr a dydd Mawrth 5 Ionawr yn
ddyddiau i staff yn unig. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ysgolion a lleoliadau baratoi ar
gyfer dychweliad yr holl ddisgyblion ar ddydd Mercher 6 Ionawr.
Bydd dydd Llun 4 Ionawr a dydd Mawrth 5 Ionawr yn ddyddiau cynllunio a
pharatoi. Bydd y dyddiau hyn i staff yn unig a byddan nhw’n rhoi cyfle i ysgolion
a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar arolygu eu hasesiadau, eu prosesau a’u
systemau risg i sicrhau y gallan nhw groesawu dysgwyr yn ôl yn ddiogel.
Bydd pob lleoliad ar agor i ddysgwyr o ddydd Mercher 6 Ionawr.
Rhaid i mi bwysleisio ein bod yn dal yng nghanol y pandemig. Dylai rhieni
barhau i wylio rhag coronafeirws a chadw plant sâl i ffwrdd o’r ysgol a
lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, hyd yn oed os yw’r symptomau i weld yn
ysgafn.
Rhaid i’r dychwelyd ym mis Ionawr fod mor ddiogel ag y bo modd i’n dysgwyr
a’n staff. Mae’r cyfyngiadau a ddaw i rym ar ddydd Llun 28 Rhagfyr ledled
Cymru wedi eu cynllunio i wneud y wlad yn fwy diogel.
Rwy’n erfyn ar bob teulu i ddilyn y rheolau Coronafeirws diweddaraf fel y gall ein
hysgolion fwrw iddi ddydd Mercher 6 Ionawr 2021 a bod mor ddiogel ag y bo
modd i bawb. Yn olaf, hoffwn i ddymuno gwyliau diogel a hapus dros y Nadolig ac rwy’n
edrych ymlaen at weld plant a phobl ifanc yn ôl mewn ysgolion a lleoliadau’r
blynyddoedd cynnar ym mis Ionawr.

Yr eiddoch yn gywir

Y Cynghorydd Phyl Davies
Aelod y Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo
Geraint Rees
Arweinydd Strategol Addysg
Lynette Lovell
Prif Swyddog Addysg Dros Dro