Sesiynau Carlam Cymru

Annwyl oll,

Mae pandemig Covid wedi arwain at fyfyrwyr ledled Cymru yn colli allan ar rai agweddau a’r cyfle i wella eu sgiliau mewn amryw o bynciau TGAU, UG a Safon Uwch. Er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr hyn yn cael cefnogaeth mewn gwahanol agweddau o’u gwaith, bydd e-sgol yn cynnal cyfres o sesiynau carlam ar ôl ysgol am bedair wythnos, trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddechrau ar ddydd Llun 1af o Fawrth. Bydd y sesiynau yn digwydd ar ôl ysgol.

Bydd y sesiynau / gweminarau hyn yn cael eu darlledu trwy ddigwyddiad byw ar Microsoft Teams ac yn cael eu hwyluso gan athrawon o bob rhan o Gymru sydd ag arbenigedd yn y pwnc y byddan nhw’n ei gyflwyno. Bydd y sesiynau a gyflwynir yn cael eu recordio a gellir eu defnyddio yn ddiweddarach.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth ganlynol gyda’ch penaethiaid adrannau, athrawon a disgyblion. Bydd y disgyblion yn gyfrifol am gael mynediad i’r wefan er mwyn clicio ar y dolenni perthnasol i ymuno â’r sesiynau.

Am ragor o wybodaeth gan gynnwys pryd y cynhelir y sesiynau, ewch i’r wefan ganlynol neu dilynwch y cyfarwyddiadau ar y poster atodol –

https://sites.google.com/hwbcymru.net/cyrsiaucarlamcymru