Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad

Cafodd y cynllun ei estyn ym mis Mawrth 2021 i gynnwys y grwpiau blynyddoedd canlynol:

 Blwyddyn 1, Blwyddyn 5, Blwyddyn 8, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 11 ysgolion ym mis Medi 2020.

£125 i bob disgybl cymwys.

Bydd staff Powys yn bwrw golwg dros y rhestr o bawb sy’n derbyn prydau ysgol am ddim i gadarnhau a yw bob plentyn yn gallu derbyn y grant.  Byddwn hefyd yn bwrw golwg dros  geisiadau newydd am brydau ysgol am ddim  i weld a ydynt yn gymwys.

Ni fydd pob plentyn sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn gallu derbyn y grant.

Os yw eich plentyn yn trosglwyddo i ysgol tu allan i Bowys, dylech wneud cais i’r awdurdod sy’n gyfrifol am yr ysgol honno.

Os ydych chi’n credu y gallwch hawlio prydau ysgol am ddim, ond nad ydych yn hawlio ar hyn o bryd, dylech lenwi  ffurflen gais am brydau ysgol am ddim yma.

Am ymholiadau eraill, ffoniwch  01597827462 (sylwch na fyddwn yn cymryd manylion banc dros y ffôn).

Bydd y gronfa’n talu am bethau megis gwisg ysgol, gwisg arall megis cit chwaraeon, cyfarpar ar gyfer teithiau allan o’r ysgol (gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored) ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm megis dylunio a thechnoleg.

Mae’r cynllun wedi’i estyn yn ddiweddar i gynnwys prynu offer TG, gliniadur a thabledi yn unig, lle nad yw’r ysgol yn gallu benthyca offer i’r teulu.

 Cyhoeddwyd yr estyniad hwn i’r cynllun presennol ar 5 Mawrth 2021 a bydd yn rhedeg tan ddiwedd Mehefin 2021.

Dim ond un grant fesul blwyddyn academaidd.

Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad: Ffurflen Gais

https://cy.powys.gov.uk/article/3759/Prydau-ysgol-a-grantiau-dillad